gweithgareddau Little Lounge

Grwp Babanod

Cyfle arbennig i riant a babi ymlacio gyda cherddoriaeth, offerynnau a goleuadau llachar! Mae’r dosbarthiadau yma wedi cael ei threfnu ar gyfer babanod ifanc o dan oedran cerdded, mae’r sesiynau yn 45 munud o weithgareddau ‘amser cylch’. Mae pob teulu yn cael set ei hunain o deganau synhwyrau, sydd yn galluogi babi i ddarganfod cyffwrdd, clywed a golwg eu hunain. Mae geiriau a chaneuon Cymraeg yn cael ei defnyddio trwy’r sesiynau, sydd yn berffaith i rieni sydd eisiau dysgu tipyn o Gymraeg.

Mae dosbarthiadau yn cael eu bwcio mewn bloc o 6 wythnos ar y tro, yn galluogi i rieni dod i adnabod ei gilydd ac i wneud ffrindiau. Mae prisiau’r sesiynau yn cael eu cadw yn isel ac yn fforddiadwy, ond os bod unrhyw un mewn safle le nad allant dalu, cysylltwch â ni! Rydym yn gwneud yn siŵr bod pob teulu cael y siawns i gymryd rhan yn ein gweithgareddau.

Anturiaethau Awyr Agored

Mae’r sesiynau hwylus a blêr yma yn cael eu cynnal tu allan yn ein gardd arbennig! Mae’n berffaith i blant bach cael ymchwilio a darganfod y bywyd gwyllt gyda ffrindiau! Yn y glaw neu’r haul mae’r sesiynau yn llawn plannu a thyfu, hela pryfaid, argraffu dail ac wrth gwrs llawer o gacennau mwd!

Mae Antur Awyr Agored yn para awr, mae rhieni yn cael ei annog i ddod a byrbryd ar gyfer amser stori, mae hefyd swigod a chanu i orffen!

Mae hyd yn oed gyda ni toiledau campio ar gyfer rhai bach sydd yn dysgu defnyddio poti!

Mae dosbarthiadau yn cael eu bwcio mewn bloc o 6 wythnos ar y tro, yn galluogi i rieni dod i adnabod ei gilydd ac i wneud ffrindiau. Mae prisiau’r sesiynau yn cael eu cadw yn isel ac yn fforddiadwy, ond os bod unrhyw un mewn safle le nad allant dalu, cysylltwch â ni! Rydym yn gwneud yn siŵr bod pob teulu cael y siawns i gymryd rhan yn ein gweithgareddau.

Community Pantry Cilfynydd Pontypridd

Pantri Gymuned

Mewn partneriaeth gyda ‘FareSage Go’ a Tesco Upper Boat, mae’r fenter anhygoel yma wedi cael ei chreu dros y cyfnod clo 2020. Mae’r Pantri Cymunedol yn brosiect eco, ac wedi ei ddylunio ar gyfer lleihau gwastraff bwyd ac i ailddosbarthu bwyd i’r gymuned.

Ar hyn o bryd mae’r Pantri ar agor bob Dydd Iau o 6.15-7.15yh a bob Dydd Gwener 10-11.30yb ac yn cael ei rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig. Mae preswylwyr Cilfynydd a’r ardal leol yn cael dewis bag llawn bwyd ffres, gan gynnwys cynhyrchion becws, ffrwythau a llysiau am rodd o £2. Mae’r elw i gyd yn mynd yn syth yn ôl i brosiectau cymunedol. Mae’r Pantri ar agor i bawb, nid yw’r Pantri yn fanc bwyd nac yn gysylltiedig ag incwm isel.

Mae arolwg diweddar yn dangos bod tua 134 o bobl yn defnyddio’r Pantri bwyd bob wythnos. Yn y 5 mis rhwng Awst a Rhagfyr 2020 fe wnaethom ni ailddosbarthu bwyd werth £2000 a fysai wedi cael ei thaflu i’r bin; mae hyn yn gyfartal i 1.35 tunnell o fwyd, ac wedi osgoi 3375kg o allyriadau CO2, sef hanner allyriadau blynyddol cyfartalog cartref y DU, neu ddwsin o deithiau awyrennau i Majorca ac yn ôl!

Cwestiynau Cyffredin

Oes rhaid byw yng Nghilfynydd i fynychu digwyddiadau a gweithgareddau Little Lounge?

Nag oes! Yn gyffredinol, rydym yn croesawu pobl o unrhyw le! Er hyn, rydym yn angerddol am wasanaethu ein cymuned leol fel blaenoriaeth, felly weithiau os bod ganom ni nifer gyfyngedig o nwyddau, fydd rhaid dweud bod gweithgaredd neu rodd yn benodol i rai plant sydd yn byw o fewn pellter cerdded o’r Canolfan Cymunedol.

Mae’r Pantri Cymunedol yn brosiect eco-ffocws felly yn annog pobl i gerdded yn hytrach na gyrru i’r Pantri.

Sut mae’ch prisiau mor rhad?

Un o’r pethau pwysicaf i ni yw cadw pob gweithgaredd yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Rydym yn sefydliad corfforedig elusennol felly nid ydym wedi cael ein sefydlu i wneud elw fel menter.

Mae ein helw i gyd yn mynd yn ôl i Little Lounge i greu mwy o weithgareddau i’r gymuned. Rydym yn dibynnu ar gyllid grantiau i helpu, a hefyd yr haelder gan ein gwirfoddolwyr gwych, sydd yn rhoi eu hamser am ddim!

Gallai dewis bwyd fy hun yn Y Pantri?

Ie, mae’r bwyd i gyd yn cael ei rhoi ar fwrdd a gallwch chi ddewis unrhyw beth i lenwi eich bag. Weithiau mae’n bosib y byddem ni yn rhoi cyfyngiadau ar rhai eitemau, fel aeron- un pwned y pen.

Gall Tad neu Dad-cu mynychu Grwpiau Babi?

Ie! Rydym yn aml yn cael Tadau yn dod a babanod i’r grwpiau, does dim un o’r Grwpiau Babi a Phlant bach yn grŵp ‘Mamau yn unig’, er hyn mae mwyafrif o’r oedolion yma yn fenywod.

Oes rhaid bod yn derbyn budd-daliadau er mwyn dod i’r Pantri?

Nac oes, mae’r Pantri i bawb! Mae’n brosiect eco gyda’r pwrpas o leihau gwastraff bwyd. Bysai’r bwyd rydym yn derbyn yn mynd i’r bin, er ei fod yn berffaith i’w fwyta. Rydym yn falch iawn o fod yn arwain menter eco yn Gwm Cynon a’r ardal Pontypridd!

Ydych chi’n pregethu am Gristnogaeth yn eich digwyddiadau?

Nac ydyn, byddwn ni byth yn pregethu ein credoau oni bai bod y digwyddiad wedi’i hysbysebu’n benodol fel ‘Eglwys’. Rydym weithiau yn rhedeg digwyddiadau ar y cyd gyda Lounge Communities, fel ‘Eglwys Hamddenol’ neu ‘Eglwys Fwdlyd’ sydd yn addas i’r holl deulu ac sydd wedi’i ddylunio ar gyfer pobl sydd yn dod am y tro cyntaf.

Ymhob un o’n digwyddiadau, mae llawer o’r gwirfoddolwyr a staff yn Gristnogol ac felly yn fwy na hapus i drafod eu ffydd neu i ateb unrhyw gwestiynau. Rydym hefyd ar gael i weddïo gyda chi am un rhywbeth rydych chi eisiau gweddïo amdano, oll sydd angen gwneud yw gofyn!