Cefnogi Teuluoedd Lleol

Little Lounge mewn partneriaeth â Maggie’s Voice Equestrian Center a Voyage of Hope Therapy Services, yn lansio menter arloesol i gefnogi teuluoedd ym Mhontypridd.

Mae dyddiau Mercher wedi dod yn ddiwrnodau “Dod o hyd i’ch Llais”! 
Wedi’i leoli yn Maggie’s Voice Equestrian Center ger Pontypridd, mae’r prosiect cymorth teuluol therapiwtig hwn yn un o’n mentrau mwyaf cyffrous ar gyfer 2022! 
Mae angen cymorth ychwanegol ar lawer o deuluoedd lleol ar gyfer plant sy’n cael trafferth gydag ymddygiad heriol; eto i gyd, nid oes gan ysgolion ddigon o adnoddau, maen nhw o dan gormod o bwysau a gall amseroedd aros i’r rhai sydd angen diagnosis swyddogol fod yn flynyddoedd – Gall hyn adael rhieni’n teimlo’n anobeithiol ac wedi’u llethu. 

Y syniad

Mae Elinor Brewer, perchennog a gweledydd ‘Maggie’s Voice’ wedi creu amgylchedd meithringar, dan arweiniad cleientiaid, gyda’i phrofiad a’i hangerdd am alluoedd therapiwtig ceffylau. Ynghyd â chefnogaeth ac arbenigedd Louise Worrall o Voyage of Hope Therapy Services, dechreuon ni drafodaethau cyffrous am sut y gallem bartneru er budd teuluoedd mewn angen. Cysyllton ni â’r 1910 Trust a Bute Energy a chynnig syniad i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion lleol i ddarparu sesiynau therapiwtig ar ffermydd gyda cheffylau i blant sy’n ei chael hi’n anodd ymgysylltu ag ysgol prif ffrwd.

Mae ceffylau yn adlewyrchwyr emosiynol anhygoel, maen nhw’n ein helpu ni i ddeall iaith ein corff, ein lefelau egni a sut mae ein cyfathrebu’n effeithio ar y byd o’n cwmpas. Mae gweithio’n therapiwtig gyda cheffylau hefyd yn rhoi hwb i hunan-barch a hyder gan fod y person wedi’i rymuso i gymryd gofal a darparu ar gyfer creadur byw arall; mae plant sy’n aml yn teimlo nad ydynt yn ‘ffitio’ neu’n methu ‘cyflawni’ yn yr un modd ag y mae eu cyd-ddisgyblion yn blodeuo yn yr amgylchedd naturiol hwn, i ffwrdd o ffurfioldeb lleoliad dosbarth. 

Cefnogi rhieni 

Yn Little Lounge rydym yn credu’n gryf mai un o’r ffyrdd gorau i gefnogi lles plant lleol yw cefnogi eu rhieni. Diolch i’n cyllidwyr, nid yn unig y mae’r plant yn elwa o’r prosiect hwn, ond tra bod y plentyn yn gweithio gyda’r ceffylau mae eu rhiant yn cael sesiwn un i un gyda therapydd, i gael cyngor, i gael eu cyfeirio neu ddim ond i gael sgwrs gyda chlust sympathetig. 
Diolch i’r Arnold Clark Community Fund, fe wnaethom greu ardal goffi gyfforddus ar y fferm, gyda soffas, oergell llawn stoc, tostiwr a pheiriant coffi a roddwyd gan Tesco Extra Upper Boat. Rydym yn falch iawn o’r dull teuluol cyfannol hwn. 

Dywedodd Louise o Voyage of Hope Therapy Service “Dyma’r prosiect cyntaf i mi fod yn rhan ohono sy’n ystyried lles y rhieni.” 

Rydym wedi gweithio gyda 10 teulu lleol ac mae’r adborth wedi bod yn wych. 
Dywedodd Kirsty, Mam Paris, sy’n 12 oed, “Dw i wir wedi sylwi ar y gwahaniaeth ynddi, gan wybod bod ganddi hyn i edrych ymlaen ato ar ddydd Mercher mae’n rhoi rhywbeth iddi ganolbwyntio arno, mae hi wedi bod llawer yn dawelach.” 

Mae staff Cwricwlwm Amgen Ysgol Uwchradd Pontypridd wedi dweud bod hwn yn ddarpariaeth yr hoffent barhau i’w myfyrwyr; rydym ar ben ein digon o fod wedi bod yn gatalydd wrth greu’r bartneriaeth hon a gobeithiwn y bydd Dod o Hyd i’ch Llais yn cael effaith gadarnhaol barhaol ar deuluoedd lleol am flynyddoedd i ddod. 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan Voyage of Hope Therapy, ewch i www.vohts.co.uk

Logo designed by Grace aged 12
Building trust