Amdanom ni​

Rydym yn grŵp bach o bobl gyda chalonnau enfawr ar gyfer ein cymuned!

Agorodd Little Lounge yn 2015 fel grŵp babi a phlant bach, yn cael ei gynnal ar fore Gwener, ac yn cael ei rhedeg gan grŵp o ffrindiau gyda phlant bach ei hunain. Ein hethos oedd “Croesawyd, Derbyniwyd, Cefnogwyd”.

Trïom yn galed iawn i greu rhywle arbennig i rieni, gofalwyr a phlant bach lleol. Roedd yn boblogaidd iawn! Yn fuan iawn roedd rhaid creu dau grŵp a hefyd symud i Ganolfan Gymunedol Cilfynydd.

Rydym yn adnabyddus am ein sesiynau Chwarae Caffi, sydd ym mhoblogaidd iawn gyda theuluoedd lleol. Yn y sesiynau yma rydym yn gynnig bwyd ffres, iach a fforddiadwy, yn ogystal â rhywle hwylus i’r plant chwarae tra bod y rhieni yn cael sgwrsio ac ymlacio.

Dechreuwyd prosiect Yr Ardd Fach yng nghanol cyfnod clo cofid. Trwy ddefnyddio adnoddau’r Ardd Synhwyrau a gafodd eu creu yn 2017, buom i ni ailgyflwyno’r lleoliad fel bod gan bobl rhywle i gysylltu â phobl eraill yn saff a gan fwynhau bod allan yn yr awyr iach. Buom i ni annog pobl i dyfu ffrwythau a llysiau a chychwyn cyfnewid hadau ac eginblanhigion.

Yn dilyn llwyddiant Yr Ardd Fach, lansiwyd ein grŵp Antur Awyr Agored plant bach yn wanwyn 2021.

Ein breuddwyd mawr yw creu Hwb Little Lounge yng Nghilfynydd, ble allwn ni ehangu ein prosiectau, a chynnig mwy o gyfleoedd am grwpiau a gweithdai, a chyfleoedd cysylltu. Bydd yr hwb yn cynnwys caffi a fydd yn ymgorffori’r Pantri Cymunedol a fydd hwnnw yn cael ei ehangu i gynnig cynhyrchion eco cyfeillgar am bris fforddiadwy.

Roedd y tîm a wnaeth cychwyn y Little Lounge yn perthyn i Eglwys Gristnogol o’r enw Lounge Communities. Dros y blynyddoedd mae ein tîm gwirfoddolwyr wedi tyfu, nid yw pob un o’n gwirfoddolwyr yn Gristnogol, ond mae Little Lounge yn cynnal curiad calon Gristnogol ym mhob peth rydym yn gwneud. Credwn fod Duw wedi creu ac yn caru pawb yn gyfartal, ac felly dylai pawb cael eu pharchu, eu croesawu, a’u caru, beth bynnag yw eu cefndir a chred.


Cwrdd â’r criw

Katie

Katie yw gweledydd Little Lounge. Mae hi’n fam o dair merch sassi ac felly yn gwybod o brofiad pa mor anodd all bod yn rhiant fod! Mae Katie a’i gŵr Steve hefyd yn rhedeg Lounge Communities, sef Eglwys leol yng Nghilfynydd.

Maent yn ymroddedig i helpu pobl Cilfynydd a’r ardaloedd o’i gwmpas; i weld pawb gyda’r offer sydd ei angen, yn gysylltiedig gyda’r gymuned, ac yn cael eu cefnogi trwy bopeth. Mae Katie yn ferch cymoedd ac yn falch iawn, siaradwr Cymraeg, a chanwr o hwiangerddi!

Angela

Mae Angela yn cyn athrawes gwyddoniaeth, gyda dwy ferch a nifer sylweddol o nithoedd a neiaint. Mae hi yn caru treulio amser ynghanol, ac yn dysgu, am natur.

Mae Angela hefyd yn rhan o lawer o brosiectau addysgiadol yn y gymuned, a bob amser yn cael hwyl ac yn meddwl am syniadau newydd! Mae Angela yn arwain sesiynau Antur Awyr Agored ac yn gweithio fel codwr arian i Little Lounge.


Ein hymddiriedolwyr

Mae ein hymddiriedolwyr i gyd yn byw yng Nghilfynydd, ond yn dod o wahanol gefndiroedd! Maent yn rhannu angerdd am gymuned, cyfiawnder, a’u ffydd Gristnogol. Mae pob un yn cynnig sgiliau a diddordebau gwahanol ac arbennig, gan gynnwys ymwybyddiaeth amgylcheddol, cydraddoldeb BAME, mabwysiadu, a chefnogi plant gydag anghenion ychwanegol.

Mae’r ymddiriedolwyr yn helpu gyda gwneud penderfyniadau pwysig am sut i redeg Little Lounge, ac yn sicrhau bod yr elusen yn tyfu gyda’r weledigaeth a’r ethos gwreiddiol mewn meddwl.

Mark

Mae gan Mark blynyddoedd o brofiad o weithio fel ymddiriedolwr i lawer o elusennau. Mae’n awyddus i weld y gymuned datblygu a gwneud yn dda. Mae Mark yn angerddol am foeseg a chynaliadwyedd, ac amddiffyn ein byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Mark yn ceisio gwneud y gorau gyda’r tywydd Cymraeg arbennig gan dyfu ffrwythau a llysiau ei hun yn ei ardd adref.

Suzanne

Mae llawer o fywyd gwaith Suzanne wedi ffocysu ar blant sydd wedi bod trwy drawma mewn rhyw ffordd, a hefyd eu gofalwyr. Mae hi gyda diddordeb mewn adeiladu hydwythedd, cefnogi plant gyda’u lles emosiynol, a chefnogi rhieni a gofalwyr i ddeall a chyfarfod anghenion y plant.

Mae Suzanne yn fam sengl sydd yn deall heriau a llawenydd magu plant, a’r pwysigrwydd o gymuned a chefnogaeth.

Cenhadaeth

Mae Little Lounge yn brosiect cymunedol elusennol, yn ymroddgar i hyrwyddo a chefnogi lles y preswylwyr yng Nghilfynydd a’r ardaloedd lleol.

Yn benodol, rydym yn anelu at ddarparu cyfleoedd i deuluoedd gyda phlant ifanc i gysylltu gyda’i gilydd a chael mynediad i weithgareddau o safon uchel, sydd yn hybu eu iechyd a lles.

Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw creu rhywle saff a chroesadwy i breswylwyr cysylltu, rhannu sgiliau, ac i deimlo wedi’u cefnogi mewn amgylchedd positif.

Rydym yn anelu i hyrwyddo arloesi llawr gwlad a chreadigaeth i wella bywydau preswylwyr Cilfynydd a’r ardaloedd lleol.

Gwerthoedd

Mae Little Lounge wedi cael ei sefydlu ar egwyddorion ffydd Gristnogol. Credwn fod pob un ohonom wedi cael ein creu ac yn cael ein caru gan Dduw. Yn sgil hynny dylai pawb cael eu derbyn a’i thrin gyda haelder, beth bynnag yw eu cred a’u chefndir.

Credwn fod Duw yn rhoi gymaint i bob person er ei anallu i roi nôl, rydym felly yn ceisio gwneud pob gweithgaredd mae Little Lounge yn ei chynnig yn hygyrch i bawb. Rydym yn ceisio fod yn ystyriol o fforddiadwyedd, diwylliant, a materion corfforol wrth drefnu ein prosiectau.

Bu i Dduw creu’r byd gyda sbectrwm o harddwch a swyddogaeth, rydym felly yn credu bod pob person gyda sgiliau gwerthfawr a galluoedd i rannu, a dylai pawb dathlu a chael eu hannog i wneud hynny.