Little Lounge

Dylunwyd i ddarganfod

Amdano Little Lounge

Croeso! Mae ‘Little Lounge’ yn brosiect cymuned, wedi ei leoli yng Nghilfynydd, ger Pontypridd.

Rydym yn awyddus i weld cymuned leol sydd yn tyfu ac yn gysylltiedig, yn gwerthfawrogi ei gilydd ac ein hamgylchedd.

Dechreuodd Little Lounge yn 2015 fel grŵp babi a phlant bychain. Er ein bod wedi ehangu ers hyn rydym dal yn ymroddgar iawn i gefnogi lles plant yn y blynyddoedd cyntaf, a’u teuluoedd hefyd.

Rydym yn sefydliad Cristnogol, wedi ei sefydlu ar y ffydd bod pawb wedi cael eu creu yn gyfartal gan Dduw, ac yn cael ein caru yn gyfartal hefyd. Rydym yn croesawu ac yn gweithio gyda phobl o bob ffydd a hefyd pobl sydd heb ffydd.

Diddordeb mewn gwirfoddoli?

Os rydych yn teimlo fel eich bod gyda sgiliau neu amser rhydd i gynnig, rydym bob amser yn hapus i siarad am y cyfleodd sydd am ddod!

Y Galeri